AR GAU DROS DRO
Rydym wedi symud i gartref newydd ac yn edrych ymlaen at agor yn ddiweddarach yn 2025.
Amgueddfa annibynol yw Amgueddfa Dinbych wedi'w sefydlu yn 2014 gan wirfoddolwyr i ddiogelu treftadaeth Dinbych.
Er yn hollol wirfoddol mae ein amgueddfa yn cael ei weithredu i'r safonau uchaf. Rydym yn gweithio tuag at achrediad llawn gan Llywodraeth Cymru.
Mae'r amgueddfa ar agor pob prynhawn dydd Llun a dudd Iau rhwng 2yp-4yp ac ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn ar gyfer arddangosfeydd arbennig. Mae'r Grŵp Archif Cymunedol hefyd yn cyfarfod yn yr amgueddfa ar yr un pryd.
Rydym yn croesawu ymweliadau gan grwpiau ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Cysylltwch a ni i wneud trefniadau.


