- This event has passed.
Drysau Agored - Capel Lôn Swan
Medi 19 @ 12:00 am - 4:00 pm
Free

Mae Capel Lon Swan yn gapel Annibynnol a godwyd yn wreiddiol ym 1742, ac a
addaswyd ym 1812. Mae'r capel presennol, sy'n dyddio o 1839, wedi'i adeiladu yn
yr arddull Glasurol gymesur gyda mynedfa yn y talcen. Ychwanegwyd talcen blaen
trawiadol yn arddull y Dadeni Eidalaidd a thŷ'r gweinidog tua 1880, ac ystafell
ysgol ym 1907. Mae tu-mewn y capel yn rhagorol, gyda galeri siâp U yn cael ei
gynnal gan golofnau haearn bwrw; y tu ôl i'r pulpud, wedi'i osod yn uchel, mae
organ fawr gan Bellamy o Ddinbych.



