Loading Events

« Pob Digwyddiadau

  • This event has passed.

Ffotomarathon

Mehefin 14, 2025 @ 10:00 am - 4:00 pm

Cofrestru yn HWB Dinbych o 10am, ymlaen tan 4pm.                       

AM DDIM

 Digwyddiad hwyliog i archwilio'r dref ar eich pen eich hun neu gyda theulu a ffrindiau. Mae'r Ffotomarathon ar agor i unrhyw un sydd â chamera ddigidol neu ffôn clyfar ac mae'n ffordd wych o ddarganfod manylion diddorol ac anarferol o amgylch y dref.

Bydd cyfranogwyr yn cael pedwar pwnc i'w ffotograffio mewn chwe awr; ond nid oes rhaid i chi dreulio'r chwe awr lawn - os ydych chi wedi gorffen yn gynt, mae hynny'n iawn! Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM i'r teulu cyfan. Nid cystadleuaeth mohoni felly dewch draw, cael hwyl a bydd eich lluniau'n cael eu huwchlwytho i dudalen Facebook y Ffotomarathon i bawb eu gweld. Bydd arddangosfa yn Hwb Dinbych yn dilyn y digwyddiad yn ystod wythnos yr Ŵyl.

Os ydych chi'n defnyddio camera, dewch â cherdyn cof gwag ac ar ddiwedd y digwyddiad, bydd eich pedwar llun yn cael eu lawrlwytho ohono. Rhaid i luniau fod yn jpegs (dim ffeiliau RAW) a rhaid iddynt fod yn syth o'r camera/ffôn heb unrhyw ôl-gynhyrchu. Cofrestrwch yn HWB Dinbych ar Ffordd y Ffair LL16 3RG o 10.00am a dychwelwch i lawrlwytho lluniau erbyn 4.00pm fan bellaf. Am fwy o fanylion e-bostiwch rob@robstephen.co.uk neu ffoniwch 07145 730111.

Manylion

Lleoliad

  • Hwb Dinbych
  • Station Road
    Denbigh, Denbighshire LL16 3DA United Kingdom
    + Google Map