- This event has passed.
Gerddi Agored NGS – Gwaenynog
Mehefin 15, 2025 @ 2:00 pm - 5:30 pm
£5

Gwaenynog. 1 filltir i'r gorllewin o Ddinbych ar yr A543 LL16 5NU. 2pm – 5.30pm. £5 i oedolion, plant am ddim.
Dwy erw, gan gynnwys yr ardd furiog wedi'i hadfer lle ysgrifennodd a darluniodd Beatrix Potter ei storiau am y cwningod bach direudus. Hefyd, arddangosfa fach o beth o'i gwaith. Borderi llysieuol hir a gwelyau, rhai wedi'u hailblannu'n ddiweddar, coed ffrwythau espalier, pergola rhosyn ac ardal lysiau. Tŷ o'r 16eg ganrif (heb fod ar agor) wedi'i ymweld gan Dr Samuel Johnson yn ystod ei Daith o Gymru. Te a lluniaeth cartref yn cael eu gwerthu er budd Eglwys Sant Iago, Nantglyn.



