- This event has passed.
Drysau Agored - StudioMADE @ Carriageworks
Medi 19 @ 11:00 am - 2:00 pm
Free

Adeiladwyd ffatri gerbydau a dynnir gan geffylau – a oedd yn eiddo i Williams
Brothers – ym 1868; mae'n adeilad tri llawr. Mae'n enghraifft brin o dreftadaeth
ddiwydiannol Dinbych ac yn bwysig fel rhan o ardal gadwraeth y dref. Roedd pob
llawr yn arbenigo mewn gwneud cydrannau gwahanol. Roedd y broses gynhyrchu yn
symud yn fertigol rhwng y lloriau trwy agoriadau llawr gan ddefnyddio cadwyni. Er
i'r busnes arallgyfeirio i wneud gwaith corff cerbydau ar gyfer siasi, ni
ffynnodd yn oes y car modur. Wrth drawsnewid yr adeilad yn ganolfan celf a
chrefft mewn ffordd gydnaws, cadwyd llawer o'r nodweddion a'r arteffactau
diwydiannol. Ar hyn o bryd, mae'r eiddo yn stiwdio ac yn oriel amlddisgyblaethol
a redir gan studioMADE. Bydd ar agor ddydd Sadwrn rhwng 11am a 2pm, gan arddangos
eu gwaith diweddaraf a'r adeilad ei hun.



