Drysau Agored 2025

Drysau Agored Dinbych 19, 20 a 21 o Fedi 2025

Dyddiadau pwysig i’r dyddiadur eleni fydd dydd Gwener 19 Medi, dydd Sadwrn, 20 Medi a dydd Sul 21 Medi ar gyfer digwyddiad Drysau Agored blynyddol Dinbych.

Darlith fydd yn cychwyn y penwythnos gyda’r cyfreithiwr adnabyddus o Ddinbych (Swayne Johnson gynt) Edward Lloyd yn annerch y gynulleidfa. Pwnc y ddarlith (trwy gyfrwng y Saesneg) fydd ‘Gweithredoedd a’u perthnasedd heddiw’ mae’n argoeli’n noson dda yn Theatr Twm o’r Nant.

Taith ddiddorol fore Sul 21 o Fedi fydd ‘Taith y Rhyfel Cartref - Brwydr Grîn Dinbych’ wedi ei harwain gan y tywysydd lleol sy’n llawn gwybodaeth leol helaeth, Medwyn Williams.

Digwyddiad ysgafn yn un o dafarndai’r dref fydd un gweithgaredd brynhawn Sul, wrth i ni droi at y gân mewn sesiwn werin ysgafn.

A phinacl yr Ŵyl eleni fydd sgwrs glo gan Gyfarwyddwr Datblygu Galeri, Caernarfon, Gwyn Roberts. Gwyn oedd Prif Weithredwr Cwmni Tref Caernarfon cyn newid yr endid i Galeri. Bydd Gwyn yn rhannu ei brofiad gwerthfawr o sefydlu a datblygu ymddiriedolaethau treftadaeth.

Dywedodd Chris Evans, cadeirydd pwyllgor Drysau Agored Dinbych sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwyr diwyd: “Rydym bob amser yn gyffrous wrth drefnu a pharatoi Drysau Agored Dinbych ac mae’n diolch ni’n fawr i’r holl wirfoddolwyr sy’n ymroi i’r gwaith trefnu.

“Mae’n gyfle gwych i bobl leol ac ymwelwyr gamu i rai o’r adeiladau a’r lleoliadau hyn mewn digwyddiad arbennig dros un penwythnos y flwyddyn. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiaduron wrth i’r perchnogion, ceidwaid a’r tywyswyr baratoi ar gyfer agor eu giatiau a’i drysau i’r cyhoedd.”

Mae taflen Drysau Agored bellach wedi ei chyhoeddi sy’n rhestru dros 30 o adeiladau sy’n agor eu drysau yn ogystal â theithiau a sgyrsiau. Bachwch gopi ym musnesau’r dref neu’r Llyfrgell.

A chofiwch mai Llyfrgell Dinbych fydd pwynt canolog yr Ŵyl a bydd holl wybodaeth Drysau Agored ar gael, yn nes at yr amser, yno i chi gael archebu teithiau a gweithgareddau ymlaen llaw. 01745 816313, www.darganfoddinbych.cymru

Darganfod Dinbych
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram