Drysau Agored Dinbych 2026 yn agor am benwythnos treftadaeth blynyddol

Mae digwyddiadau Drysau Agored Dinbych 2026 yn agosáu ac mae’r digwyddiad eleni yn disgyn ar ddydd Gwener 18, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi. Mae’n llawn ymweliadau a gweithgareddau treftadaeth i bawb o bob oed.

Cyflwynir y ddarlith agoriadol dydd Gwener 18 Medi gan Dan McLennan o Stange & Co, y cwmni masnachol sy'n berchen ar 11 tafarn a bwyty yng ngogledd a chanolbarth Cymru a gogledd-ddwyrain Lloegr. Cawn glywed popeth sydd i’w wybod am brosiect adfer Y Felin Brwcws yn Ninbych. Gyda'r teitl addas ‘Restoring Brookhouse Mill for the future’, bydd yn sicr o ddod ag atgofion hapus o'r adeilad hanesyddol eiconig yma i'r gynulleidfa ac yn rhannu’r straeon tu ôl i'r llenni am ei adnewyddu.

Mae teithiau yn ystod digwyddiadau Drysau Agored yn llenwi’n gyflym, felly os oes gennych ddiddordeb mewn teithiau penodol, archebwch yn gynnar:

• Teithiau tywys Ffynnon Sant Dyfnog @ 11am neu 2pm ddydd Gwener 18.9.26

• Teithiau cerdded Dinbych Canoloesol @ 11am neu 2pm ddydd Sadwrn 19.9.26

• Taith dywys Coleg Myddelton @ 1pm ddydd Sadwrn 19.9.26 ac eto ddydd Sul 20.9.26

• Taith gerdded Gylchol Ystrad – Brwcws - Santes Farchell @ 3pm ddydd Sadwrn 19.9.26

• Taith gerdded daeareg @ 11am ddydd Sul 20.9.26

Dydd Sul, 20fed o Fedi, cynhelir perfformiad rhyngweithiol un dyn i'r teulu yn dilyn hanes bywyd y teithiwr chwilfrydig, Thomas Pennant, yng Ngerddi Evan Pierce. Wedi'i eni ym Mhlas Downing, Chwitffordd yn Sir y Fflint, mae Pennant yn un o'r sŵolegwyr cynnar pwysicaf ym Mhrydain. Mae ei astudiaethau arloesol fel British Zoology, ei lyfrau teithio dylanwadol fel A Tour in Wales ac A Tour in Scotland, ynghyd â'i waith hanesyddol manwl ar ei blwyfi lleol yn Chwitffordd a Threffynnon yn gosod Pennant ar flaen y gad o ran gwobrau anrhydedd Prydeinig, Ewropeaidd ac Americanaidd y 18fed Ganrif.

Yn addas ar gyfer plant dros 7 oed, mae’r perfformiad Saesneg yn digwydd am 11 y bore gyda'r perfformiad Cymraeg am 3 y prynhawn. Mae archebu'n hanfodol trwy Lyfrgell Dinbych. Eleni yw 300 mlynedd ers geni'r naturiaethwr ac mae'r sioe awyr agored ryngweithiol yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddianc o'u sgriniau, profi byd natur a mwynhau'r sioe un dyn hwn. Ceir atebion o fewn y sioe am beth yw bioamrywiaeth a pham ar y ddaear mae adar yn canu?

Mae taflenni Drysau Agored wedi'u cyhoeddi sy'n rhestru dros 30 o adeiladau a fydd yn agor eu drysau ar gyfer y digwyddiad. Codwch gopi ym musnesau'r dref neu yn Llyfrgell Dinbych. Fel arall ewch i www.darganfoddinbych.cymru

Bydd Star Shop ar stryd fawr Dinbych yn agor eleni. Cartref y gymdeithas adeiladu Halifax gynt yw hon ac mae gan yr adeilad rhestredig gradd ddau ail-wyneb unedig Edwardaidd i bâr o adeiladau cynharach. Efallai y bydd rhai yn cofio'r safle yn eiddo i R Owen a'i Fab yn rhan gyntaf y ganrif ddiwethaf fel siop groser, nwyddau, ŷd a blawd.

Bydd Amgueddfa Dinbych yn Y Farchnad Fenyn hefyd ar agor drwy gydol y penwythnos yn ogystal â drysau plasty Dolbelydr, a leolir rhwng Henllan a Threfnant (rhaid archebu drwy'r Landmark Trust), yr adeilad hanesyddol lle ysgrifennodd Henry Salesbury y Geiriadur Cymraeg cyntaf yn ôl ym 1593.

Cynhelir digwyddiad cerddoriaeth ysgafnach yn Nhafarn y Castell i gloi'r digwyddiad brynhawn Sul, rhwng 4:30 a 6pm wrth i ni droi at sesiwn werin anffurfiol gyda'r band poblogaidd Acordions Dros Annibyniaeth o Gaernarfon. Gan chwarae amrywiaeth o ganeuon gwerin poblogaidd ac ychydig o emynau Cymraeg, bydd, heb os, yn glo addas i'r penwythnos ac yn gyfle i lawer weld y tu mewn i'r hen Glwb a adeiladwyd ar ddiwedd yr 20fed ganrif.

Fel arfer, y Llyfrgell fydd y pwynt cyswllt ar gyfer holl wybodaeth ac archebion Drysau Agored felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich teithiau a'ch gweithgareddau ymlaen llaw ar 01745 816313. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar www.darganfoddinbych.cymru a thudalen Facebook Drysau Agored Sir Ddinbych.

Dywedodd Chris Evans, cadeirydd pwyllgor Drysau Agored Dinbych, sy’n arwain y grŵp o wirfoddolwyr gweithgar: “Bydd Drysau Agored Dinbych yma yn fuan ar ôl deuddeg mis o drefnu a pharatoi. Fel bob amser, rydym yn ddiolchgar i'r holl wirfoddolwyr sy'n neilltuo oriau, ymdrech ac amser i'r digwyddiad ac yn gwerthfawrogi cefnogaeth pawb sy'n agor eu drysau ac yn arwain y teithiau. 

"Dewch i ni wneud digwyddiad eleni y gorau eto, trwy gamu i mewn i rai o'r adeiladau a'r lleoliadau hanesyddol yma sydd ar agor am yr un penwythnos arbennig hwn y flwyddyn. Rydym yn croesawu pobl ifanc a hŷn ac rydym bob amser yn awyddus i sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o'u treftadaeth leol yma yn Ninbych a'r cyffiniau. Os ydych chi'n awyddus i ymuno â'r grŵp bach o wirfoddolwyr lleol, yna, dewch i siarad ag un o aelodau'r pwyllgor dros y penwythnos.”

Cefnogir penwythnos Drysau Agored gan Cadw a Chyngor Tref Dinbych ac mae'n un o ddigwyddiadau Tretadaeth Agored a gynhelir ledled Ewrop ym mis Medi.

Darganfod Dinbych
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram