- This event has passed.
Drysau Agored - Bryn y Parc
Medi 19 @ 10:00 am - 4:00 pm
Free

Mae Bryn y Parc yn dŷ tref cynnar pwysig sy'n dyddio o ganol yr 16eg ganrif. Mae'r
adeilad yn gyfuniad cymhleth o wahanol rannau – rhai â fframiau pren ac eraill
wedi'u hadeiladu o garreg – sy'n amgylchynu cwrt canolog. Mae'r pren yn dyddio o
1540 yn y rhan gynharaf, ac o hyd at 1580 yn yr ychwanegiadau diweddarach.
Dioddefodd yr adeilad dân difrifol yn 2002, ond mae bellach wedi'i adfer yn
ofalus gan y perchennog i greu llety preswyl. Mae mynediad cyfyngedig i du allan
yr adeilad. Bydd y perchnogion ar gael i ateb cwestiynau.



